Neidio i'r prif gynnwy

Hwb Dementia

Mae’r Hwb Dementia yn ganolfan wybodaeth un stop sydd wedi’i hangori yng nghanol y gymuned ar gyfer popeth sy’n ymwneud â dementia.

Mae canolfannau parhaol yng Nghanolfan Siopa Cwadrant Abertawe rhwng 11yb a 3yp, 7 diwrnod yr wythnos a Chanolfan Siopa Aberafan o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 11yb a 3yp.

Mae Hwb Dementia yn cynnig gwybodaeth am ddementia ac yn cyfeirio at gymorth priodol.

Mae wedi cyflwyno hwb symudol ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, gyda sesiynau'n cael eu cynnal mewn amrywiaeth o leoedd.

Dilynwch y ddolen hon i wefan Dementia Friendly Swansea lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr Hwb Dementia.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.