Neidio i'r prif gynnwy

Feryllfa gymunedol

Beth sydd ar gael yn eich fferyllfa gymunedol leol?

Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin

Gallwch gael cyngor a thriniaeth am ddim ar gyfer llawer o fân gyflyrau trwy’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin. Mae'n cynnwys:

  • Acne
  • Tarwden y traed
  • Poen cefn (aciwt)
  • Brech yr ieir
  • Dolur annwyd
  • Colig
  • Llid yr amrant (bacteriol)
  • Rhwymedd
  • Dermatitis (aciwt)
  • Dolur rhydd
  • Llygad sych
  • Clwyf y marchogion
  • Clefyd y gwair
  • Llau pen
  • Diffyg traul/adlif
  • Casewin
  • Llid rhwbio/tarwden
  • Wlseri ceg
  • Brech cewyn
  • Llindag y geg
  • Clefyd crafu
  • Dolur gwddf/tonsilitis
  • Torri dannedd
  • Edeulyngyr
  • Llindag y wain
  • Dafadennau

Mae llawer o fferyllfeydd yn cynnig...

Adolygiad o feddyginiaethau rhyddhau

Ar ôl gadael yr ysbyty, mynnwch adolygiad o'ch meddyginiaeth gyda fferyllydd i drafod unrhyw feddyginiaethau newydd a newidiadau i'r dos, sgîl-effeithiau posibl, rhyngweithio â meddyginiaethau eraill a'r amser gorau i'w cymryd.

Prawf a Thrin Gwddf Dolurus

Mae hyn yn sgrinio pobl am heintiau bacteriol neu feirysol yn y gwddf ac yn caniatáu i fferyllwyr ragnodi gwrthfiotigau neu gyffuriau lladd poen, yn y drefn honno, os yw'n briodol.

Cynllun rhoi'r gorau i ysmygu

Mae fferyllfeydd cymunedol bellach yn cynnig cymorth i bobl sy'n ceisio rhoi'r gorau i ysmygu. Mae'r cynllun hwn yn rhoi cyngor a chymhelliant i bobl sy'n ei chael hi'n anodd gwneud hynny ac mae'n darparu amrywiaeth o therapi amnewid nicotin i leihau nifer yr awch a gânt.

Gwaredu gwastraff meddygol

Gall cleifion ddod â meddyginiaeth nas dymunir neu wedi’i defnyddio yn ôl i’r fferyllfa i gael gwared arni’n ddiogel.

Fferyllfeydd yng Nghlwstwr Penderi

  • Fferyllfa Boots (Morfa)
  • Knights Cwmfelin
  • Lewis Chemist Cyf
  • Fferyllfa Tesco (Fforestfach)
  • Fferyllfa Treboeth
  • Fferyllfa Well (Caereithin)
  • Fferyllfa Well (Gendor)
  • Fferyllfa Well (Manselton)
  • Fferyllfa Well (Penlan)

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.