Gallwch ofyn am gymorth gyda'ch asgwrn, cyhyr neu gymal sy'n peri pryder ar-lein ar wefan y bwrdd iechyd.
Er mwyn sicrhau eich bod yn gweld y person/tîm cywir, gofynnir cyfres o gwestiynau sgrinio i chi cyn y gallwch archebu apwyntiad. Bydd y rhain yn cymryd amser byr i'w cwblhau.
Os nad ydych chi'n addas ar gyfer ffisiotherapi ar hyn o bryd, byddwch chi'n cael y wybodaeth gyswllt briodol.
Dilynwch y ddolen hon i dudalen archebu Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.