Mae ffibromyalgia, a elwir hefyd yn syndrom ffibromyalgia (FMS), yn gyflwr hirdymor sy'n achosi poen ym mhob rhan o'r corff.
Mae symptomau ffibromyalgia yn newidiol - er enghraifft, gallant wella'n sydyn neu waethygu weithiau.
Er nad oes iachâd ar gyfer ffibromyalgia ar hyn o bryd, mae triniaethau ar gael i helpu i leddfu rhai o'r symptomau a gwneud y cyflwr yn haws i fyw ag ef.
Os oes gennych ffibromyalgia, gall grwpiau cymorth ddarparu rhwydwaith pwysig ar gyfer siarad ag eraill sy'n byw gyda'r cyflwr.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.