Neidio i'r prif gynnwy

Calan DVS

Mae Calan DVS yn un o'r elusennau cam-drin domestig mwyaf yng Nghymru ac maent wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i roi terfyn ar drais a cham-drin domestig.

Nod yr elusen yw lleddfu'r gofid, y dioddefaint a'r tlodi a brofir gan deuluoedd sy'n agored i gam-drin domestig, ac addysgu'r cyhoedd ynghylch achosion ac effeithiau cam-drin domestig a dulliau atal.

Yn ogystal â darparu cefnogaeth gyffredinol i ddioddefwyr, maent wedi cael eu comisiynu'n benodol i gyflwyno rhaglen IRISi ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae IRISi yn darparu llwybr pwrpasol i feddygfeydd teulu gyfeirio cleifion y maent yn teimlo eu bod yn ddioddefwyr neu mewn perygl o Drais a Cham-drin Domestig (DVA).

Mae'r rhaglen a gyflwynir gan Calan yn cynnwys hyfforddiant ac addysg staff meddygfeydd teulu, ymholiadau clinigol, llwybrau gofal a chyfle i gyfeirio at wasanaethau trais domestig arbenigol. Mae wedi'i hanelu at fenywod sy'n profi trais domestig gan bartner presennol, cyn-bartner neu aelod o'r teulu sy'n oedolyn ac mae'n darparu cefnogaeth, gwybodaeth a chyfeiriadau i ddioddefwyr a throseddwyr.

Diben IRIS yw gwella ymatebion iechyd i ddioddefwyr a chynyddu hyder ymarferwyr i ofyn cwestiynau perthnasol ac adrodd yn briodol. Gall yr ymyriadau cefnogol a ddarperir gan Calan DVS gynnwys atgyfeiriadau at wasanaethau cwnsela arbenigol heb restrau aros, cyngor ariannol a mynd gyda chleientiaid i'r llys a chyfreithwyr i ddarparu cefnogaeth ac eiriolaeth.

Mae atgyfeiriadau ymlaen wedi'u gwneud i leoedd diogel, lloches, cartrefi gofal a hosteli a chefnogi ailgartrefu cleientiaid mewn tai awdurdod lleol.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.