Cleifion sydd ag angen nyrsio sydd angen asesiad a gofal parhaus a reolir gan nyrs ardal.
Cleifion sy'n gallu rhoi caniatâd gwybodus i asesiad ac ymyriad neu lle mae diffyg galluedd meddyliol trwy benderfyniad budd pennaf.
Cleifion sy'n 18 oed neu'n hŷn.
Cleifion sy’n gaeth i’r tŷ yn unol â diffiniad Llywodraeth Cymru ar gyfer brechiad y ffliw: Yn yr achos hwn, y diffiniad o gaeth i’r tŷ yw’r unigolion hynny y byddai eu cyflwr meddygol a/neu seicolegol yn gwaethygu’n andwyol pe baent yn gadael amgylchedd eu cartref eu hunain. (Yr Adran Iechyd 2010.)
Beth ddylwn i ei ddisgwyl?
Byddwn yn cynnal asesiad nyrsio cyfannol llawn.
Bydd cynllun gofal priodol yn cael ei ddatblygu a'i gytuno ar y cyd â chi.
Byddwn yn darparu addysg ac arweiniad i hybu annibyniaeth, hunanofal ac adferiad.
Byddwn yn cyfeirio at wasanaethau/gweithwyr proffesiynol eraill gyda'ch caniatâd os oes angen.
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â'r nyrsys ardal a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i wella iechyd a lles.
Beth mae'r gwasanaeth nyrsio ardal yn ei wneud?
Gofal lliniarol a diwedd oes.
Rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn fel isgroenol, mewngyhyrol ac mewnwythiennol.
Rheoli clwyfau.
Ymataliaeth, gan gynnwys rheoli cathetr a rheoli'r coluddyn.
Gwasanaethau prawf gwaed i gleifion sy'n gaeth i'r cartref.
Gofalu am diwbiau enteral.
PIC/IVs
Addysg a hybu iechyd.
Diabetes.
Draeniau, fel draeniau bronnau a draeniau rocedi.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.