NI DDYLECH fynychu'r Uned Mân Anafiadau gydag amheuaeth o drawiad ar y galon, ataliad y galon, poenau yn y frest, strôc ac ati, neu anafiadau difrifol. Mae gwneud hynny'n hynod beryglus gan nad oes gan yr uned feddygon ac NI ALLWCH eich trin.
Ar gyfer pob salwch ac anafiadau difrifol RHAID i chi fynd i Adran Achosion Brys (A&E) fel yr un yn Ysbyty Treforys. Mae ganddo'r meddygon arbenigol, y staff a'r cyfleusterau sydd eu hangen i achub bywydau. Mae pobl sy'n ddifrifol wael/anafedig (plant ac oedolion) yn cael eu gweld ar frys, felly dyma'r ffordd gyflymaf o gael y gofal sydd ei angen arnoch, hyd yn oed os yw'r Adran Achosion Brys yn dweud ei bod yn brysur iawn.
Cofiwch - mae'r Uned Mân Anafiadau ar gyfer mân anafiadau yn unig
Oedolion, a phlant dros flwydd oed, sydd wedi cael mân anafiadau oherwydd damwain o fewn y pedair wythnos diwethaf. Mae gan yr uned ymarferwyr nyrsio brys, nyrsys brysbennu a gweithwyr cymorth gofal iechyd sy'n gallu trin cleifion ar gyfer mân anafiadau. Gweler isod am ragor o fanylion.
Mae oriau agor yr uned wedi newid dros dro i *8yb-9yh, saith diwrnod yr wythnos. Cyfeiriad: Uned Mân Anafiadau, Ysbyty Castell Nedd Talbot, Ffordd Baglan, Port Talbot, SA12 7BX. Rhif cyswllt: 01639 862160 *Am ragor o wybodaeth am yr oriau agor dros dro, gweler gwaelod y dudalen we.
Yr hyn y GALL yr UMA ei drin
|
Yr hyn NA ALL yr UMA ei drin
|
Uned Mân Anafiadau, Ysbyty Castell Nedd Talbot, Ffordd Baglan, Port Talbot, SA12 7BX. Rhif cyswllt: 01639 862160
Dod i'r Uned Mân Anafiadau ar drafnidiaeth gyhoeddus? - Cynlluniwch eich taith yma
Oherwydd pwysau staffio parhaus rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i gwtogi dros dro oriau agor yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot. Mae bellach ar gael rhwng 8yb a 9yh, saith diwrnod yr wythnos, am gyfnod o naw mis, yn hytrach na'r amseroedd blaenorol, sef 7.30yb-11yh.
Dylai unrhyw un sydd angen sylw brys na all aros tan y diwrnod canlynol ddefnyddio 111 neu, os yw'n ddigon difrifol, yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Treforys.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.