Mae nifer o linellau cymorth a gwefannau AM DDIM:
Mae cymorth iechyd meddwl 24/7 bellach ar gael dros y ffôn ym Mae Abertawe. Gall pobl sy'n byw yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sydd angen cymorth brys gyda materion iechyd meddwl nawr ffonio tîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol am ddim, ddydd neu nos.
Mae ffonio 111 a dewis opsiwn 2 yn rhoi galwyr mewn cysylltiad uniongyrchol â thîm o 20 o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot.
Mae'r gwasanaeth ar gael i unrhyw un yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sydd â phryder iechyd meddwl, gan gynnwys perthnasau sydd angen cyngor.
Galwch 111 Mae Opsiwn 2 yn rhedeg 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gan gynnig gwasanaeth brysbennu a chymorth neu gyfeirio fel y bo'n briodol.
Bydd galwyr yn cael eu cefnogi gan glinigwyr hyfforddedig sy'n gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol gan gynnwys nyrsys iechyd meddwl, ymarferwyr lles seicolegol a therapyddion galwedigaethol.
Ydych chi'n berson ifanc sy'n cael amswer galed oherwydd y pandemig? I gydnabod bod llawer o bobl ifanc yn gweld y sefyllfa bresennol yn heriol, mae Llywodraeth Cymru wedi creu adnodd ar-lein sy’n hyrwyddo’r offer digidol niferus sydd wedi’u cynllunio’n benodol i gefnogi pobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl a’u lles emosiynol eu hunain.
Mae’r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cysylltu pobl ifanc, rhwng 11 a 25 oed, â gwefannau, apiau, llinellau cymorth, a mwy i feithrin gwytnwch a’u cefnogi drwy’r pandemig Coronafeirws a thu hwnt. Mae’r cynllun syml yn galluogi defnyddwyr i gymryd rheolaeth o’u hiechyd meddwl trwy gyfrwng sy’n addas iddyn nhw, gyda gwybodaeth, hunangymorth, a chyngor ar sut i geisio cymorth pellach wedi’u gwreiddio drwyddo draw.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.