Byddwch yn cael cynnig brechiadau yn ystod eich beichiogrwydd. Brechu yw'r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o'ch amddiffyn chi a'ch babi rhag salwch difrifol.
Yn ystod beichiogrwydd, mae eich system imiwnedd yn naturiol wannach nag arfer. Mae hyn yn golygu eich bod yn llai tebygol o ymladd heintiau a all fod yn niweidiol i chi a'ch babi.
Gall brechu yn ystod beichiogrwydd helpu i atal clefydau neu wneud salwch yn llai difrifol i chi, ac i'ch babi. Mae hyn oherwydd bod yr gwrthgyrff (sylweddau naturiol y mae eich corff yn eu cynhyrchu i ymladd haint) yn cael eu trosglwyddo i'ch babi yn y groth, gan helpu i'w hamddiffyn yn ystod wythnosau cyntaf eu bywyd.
Argymhellir brechiadau i amddiffyn rhag pertussis (y pas), firws syncytial anadlol (RSV) a'r ffliw yn ystod beichiogrwydd i'ch helpu cadw chi a'ch babi yn ddiogel.
Bydd menywod sydd ag imiwnedd isel iawn hefyd yn cael cynnig yr atgyfnerthydd Covid-19, os ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.
Y pas (pertussis) - Wedi'i gynnig o 16 wythnos ymlaen.
Yr amser gorau i gael y brechlyn y pas yw rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch ei gael hyd nes y bydd eich babi yn cael ei eni, ond efallai y bydd yn llai effeithiol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd.
Am ragor o wybodaeth am y brechlyn peswch, dilynwch y ddolen hon i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
RSV (firws syncytial anadlol) - Wedi'i gynnig o 28 wythnos ymlaen.
Yr amser gorau i gael y brechlyn RSV yw rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch ei gael hyd nes y bydd eich babi wedi'i eni, ond efallai y bydd yn llai effeithiol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd.
Ffliw (firws infleunza) - Wedi'i gynnig yn ystod tymor y ffliw (a all fod ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd).
Dylech chi gael y brechlyn ffliw cyn gynted ag y caiff ei gynnig i chi.
Brechlyn atgyfnerthu Covid-19 i bobl â system imiwnedd wan iawn - Wedi'i gynnig yn ystod y tymor atgyfnerthu (a all fod ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd).
Dim ond i fenywod beichiog sydd â system imiwnedd wan iawn y cynigir yr atgyfnerthydd Covid-19, er mwyn helpu i leihau eich risg o salwch difrifol o haint Covid-19.
I gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau hyn, siaradwch â'ch bydwraig neu nyrs y practis.
I drefnu apwyntiad ar gyfer eich brechiadau, dilynwch y dolenni uchod, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu siaradwch â'ch bydwraig.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.