Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau firws syncytaidd anadlol (RSV)

O fis Medi 2024, bydd menywod beichiog a phobl dros 75 oed yn cael cynnig brechlyn RSV i helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag y firws syncytaidd anadlol (RSV), ar argymhelliad y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).


Mae RSV (feirws syncytaidd anadlol) yn firws gaeaf cyffredin, y mae bron pob plentyn wedi'i gael erbyn eu bod yn ddwy flwydd oed. Mae'n gyffredin i blant hŷn ac oedolion gael y firws eto.

I'r rhan fwyaf o bobl, mae RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd. Fodd bynnag, mae babanod dan flwydd oed ac oedolion hŷn mewn perygl o fynd yn sâl iawn. Weithiau, mae angen i bobl sy’n mynd yn sâl oherwydd haint RSV fynd i’r ysbyty. Gall RSV fod yn fwy peryglus i rai pobl, yn enwedig y rhai â chyflyrau iechyd penodol. Gall hyd yn oed achosi marwolaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn RSV, dilynwch y ddolen hon i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.