Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw i bobl â system imiwnedd sydd wedi'i gwanhau'n ddifrifol

Pam mae angen dos ychwanegol o'r brechlyn COVID-19 ar rai pobl â system imiwnedd sydd wedi'i gwanhau'n ddifrifol rhwng Hydref 2025 ac Ionawr 2026?

Mae COVID-19 yn glefyd anadlol heintus iawn a all achosi salwch difrifol mewn pobl sydd â system imiwnedd wan iawn (gwasgiad imiwnedd difrifol). Os ydych chi'n unigolyn sydd â system imiwnedd wan iawn oherwydd cyflwr iechyd sylfaenol neu driniaeth feddygol, efallai nad ydych chi wedi cael ymateb imiwnedd da i'ch dosau blaenorol o'r brechiad COVID-19. Rydych chi'n cael cynnig dos ychwanegol o'r brechlyn i wella'ch lefelau imiwnedd er mwyn rhoi gwell amddiffyniad i chi.

Pwy sy'n cael ei ystyried fel rhywun sydd â system imiwnedd sydd wedi'i gwanhau'n ddifrifol?

Mae'r brechlyn yn cael ei gynnig i unigolion 6 mis oed a hŷn sydd â gwanhad imiwnedd difrifol. Mae hyn yn cynnwys y rhai a oedd wedi neu sydd â:

  • canserau gwaed (fel lewcemia neu lymffoma)
  • imiwnedd is oherwydd triniaeth (megis meddyginiaeth steroid dos uchel, therapi biolegol, cemotherapi, radiotherapi)
  • imiwnedd is oherwydd anhwylderau etifeddol y system imiwnedd
  • trawsblaniad organ neu fêr esgyrn
  • clefydau a thriniaethau sy'n effeithio ar y system imiwnedd

Os ydych chi'n ansicr a oes angen dos ychwanegol o'r brechlyn arnoch chi rhwng Hydref 2025 ac Ionawr 2026, siaradwch â'r arbenigwr sy'n ymwneud â'ch gofal neu fel arall cysylltwch â'ch meddygfa.

Pryd fydd y dos ychwanegol o'r brechlyn COVID-19 yn cael ei roi?

Bydd ymgyrch yr Hydref/gaeaf yn rhedeg o ddydd Mercher 1af Hydref 2025 hyd at ddiwedd mis Ionawr 2026.

Yn ddelfrydol, rhoddir y brechlyn o leiaf 3 mis ar ôl eich dos blaenorol o'r brechlyn.

Mae bwriad i mi gael triniaeth imwnosbresiynol – pryd ddylwn i gael fy mrechlyn?

I unigolion sydd ar fin derbyn triniaeth imwnosbresiynol wedi'i chynllunio, dylai'r brechiad ddigwydd pythefnos cyn i'r driniaeth imwnosbresiynol ddechrau, neu bythefnos ar ôl y cyfnod o imwnosbresiynol. Bydd eich arbenigwr yn gallu eich cynghori ar hyn.

Os ydych chi wedi cael imiwnedd gwan yn ddiweddar, a heb gael brechlyn COVID-19 o'r blaen, efallai y bydd eich arbenigwr neu feddyg teulu yn eich atgyfeirio i gael brechiad.

Sut byddaf yn cael fy mrechiad?

Bydd eich meddygfa neu fferyllfa gymunedol yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi pryd a ble y byddwch yn derbyn eich brechiad COVID-19. Mae rhagor o wybodaeth am pryd neu sut y cysylltir â chi ynglŷn â'ch brechiad COVID-19 Hydref/Gaeaf ar gael drwy ddilyn y ddolen hon.

A fydda i'n profi unrhyw sgîl-effeithiau?

Mae sgîl-effeithiau cyffredin iawn yn cynnwys:

  • cael teimlad poenus, trwm a thynerwch yn y fraich lle cawsoch eich pigiad am sawl diwrnod ar ôl y brechlyn
  • teimlo'n flinedig
  • cur pen
  • poenau cyffredinol, neu symptomau ysgafn tebyg i ffliw

Sgîl-effaith llai cyffredin yw chwyddo'r chwarennau lleol yn y gwddf a'r gesail, mae hyn yn dechrau ychydig ddyddiau ar ôl y brechlyn a gall bara hyd at bythefnos.

Bydd yr imiwneiddiwr yn eich cynghori ar sut i reoli sgîl-effeithiau posibl yn yr apwyntiad brechu.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.