Os hoffech ddarllen papurau’r bwrdd lle cafodd yr ymgysylltiad cyhoeddus hwn ei ystyried yn y bwrdd ym mis Chwefror 2022, dilynwch y ddolen hon. Sylwch, dim ond yn Saesneg y mae'r dudalen hon ar gael ar hyn o bryd.
Mae'r ddogfen yn sôn am newid ein gwasanaethau hydrotherapi wrth symud ymlaen, er mwyn cynorthwyo datblygiad ein prif ysbytai i Ganolfannau Rhagoriaeth ar gyfer gwasanaethau penodol ac i sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau gwell ar gyfer ein cleifion, gwella cynaliadwyedd ein gwasanaethau, a defnyddio'r adnoddau sydd gennym yn effeithiol.
Gwnaeth y Bwrdd Iechyd, mewn partneriaeth â Chyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe, ystyried canlyniadau ein hymgysylltiad am Ofal Brys a Gofal wedi'i Gynllunio ar ôl Covid-19 yn ei gyfarfod ar Hydref 28. Cytunodd y Bwrdd y gallai'r cynigion fynd yn eu blaen, gyda rhai gweithrediadau ychwanegol i fynd i'r afael â phryderon a godwyd fel rhan o'r adborth. Cytunwyd y byddai gwaith pellach yn cael ei gyflawni am sut y byddwn yn darparu gwasanaethau hydrotherapi yn y dyfodol, gan adeiladu ar yr adborth a dderbyniwyd drwy'r broses hon.
Gan adeiladu ar y bwriad i ddatblygu pob un o'n prif ysbytai yn Ganolfannau Rhagoriaeth yn eu rhinwedd eu hun, a'r adborth a dderbyniwyd o brosesau ymgysylltu blaenorol, mae'n bwysig ein bod yn ystyried sut gall y ddarpariaeth o wasanaethau hydrotherapi symud ymlaen fel y gallwn wella mynediad at y gwasanaethau hyn a'u darparu i safon uwch.
Wrth i'n cynigion am ofal brys a gofal wedi'i gynllunio gael eu gweithredu, bydd yn arwain at ein cleifion mwyaf sâl yn cael gofal yn Nhreforys. Ble bydd angen adfer ar gleifion cyn dychwelyd gartref, byddant yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, sef ein Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Adfer. Felly, byddem yn disgwyl i gleifion mewnol sydd angen hydrotherapi fel rhan o'u hadfer dderbyn hyn yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn y dyfodol, ac nid yn Ysbyty Treforys.
Yn gyffredinol, mae plant yn mynychu'r gwasanaeth hydrotherapi fel cleifion allanol, a felly byddai'n rhaid iddynt fynd i Ysbyty Castell-nedd Port Talbot neu Ysbyty Singleton gan ddibynnu ar ble maent yn byw.
Hefyd, bwriedir i Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ddod yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer gwasanaethau Orthopedig a'r Asgwrn Cefn, a byddai'n cynnig gwasanaeth hydrotherapi i'r cleifion mewnol hyn fel sydd ei angen ar gyfer eu hadfer.
Bwriedir i Ysbyty Singleton ddod yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer gwasanaethau i Fenywod, ac felly byddai gwasanaethau hydrotherapi yn cael eu darparu yno i gleifion priodol, er enghraifft menywod sy’n geni yn y dŵr, menywod cyn ac ar ôl eu beichiogrwydd, a Gynacoleg.
Hefyd, rydym am ehangu mynediad cleifion allanol a chymunedau i wasanaethau hydrotherapi. Mae Ysbytai Singleton a Chastell-nedd Port Talbot yn cynnig mynediad da i gleifion sy'n ymweld â'u safleoedd, ac felly bydd ar gael i'r unigolion hyn. Hefyd, rydym am annog grwpiau cymunedol a sefydliadau'r sector gwirfoddol i ddefnyddio'r pyllau hyn, ac felly'n cynnig estyn y drefn ar gyfer llogi'r pwll yn Ysbyty Singleton i'r pwll yn Ysbyty Castell-nedd hefyd.
Felly, rydym yn cynnig y canlynol:
Felly byddwn yn argymell mai'r ddau bwll yma yw'r pyllau sy'n cael eu cadw ar agor.
Bydd canolbwyntio ar y ddau safle pwll yma yn ein galluogi i ddatblygu lefel gynyddol o arbenigaeth ar gyfer ein cleifion a phoblogaeth ein bwrdd iechyd, tra'n gwella mynediad cyffredinol.
Mae ymgysylltu cyhoeddus â'r Gwasanaethau Hydrotherapi yn dlyn Covid-19 yn digwydd rhwng 20 Rhagfyr, 2021 a hanner nos ar 18fed Chwefror, 2022.
Mae hefyd ar gael yn Gymraeg, print bras (Saesneg a Chymraeg), disg sain (Saesneg a Chymraeg), fideo Iaith Arwyddion Prydain, hawdd i ddarllen a Braille. Gallwch ofyn am y rhain trwy ffonio 01639 683355 neu drwy e - bostio SBU.engagement@wales.nhs.uk.
Isod mae manylion amrywiaeth o ffyrdd y gallwch gysylltu â ni a chymryd rhan yn yr ymgysylltiad hwn.
Gallwch roi’ch barn i ni drwy:
Llenwch y ffurflen ymateb sydd wedi'i chysylltu yma a'i dychwelyd atom trwy'r cyfeiriad neu'r cyfeiriad e-bost isod.
Ysgrifennu atom:
Y Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, 1 Porthfa Talbot, Baglan, SA12 7BR
E-bostio: SBU.engagement@wales.nhs.uk
Ffonio a gadael neges: (01639) 683355
Dolen i'n tudalen Facebook yma
Fel arall, gallwch roi’ch barn i’r Cyngor Iechyd Cymuned trwy:
Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe, Ysbyty Cimla, Cimla, Castell-nedd, SA11 3SU
Neu e-bostio: swanseabay@waleschc.org.uk
Diolch i chi am ddarllen hwn a rhoi eich barn i ni.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.