11.02.2026 - Rydym yn ymwybodol o broblemau technegol gyda rhai o'n llinellau ffôn. Mae gwaith ar y gweill ar frys i ddatrys hyn cyn gynted â phosibl, ac ymddiheurwn am yr anghyfleustra y mae hyn yn ei achosi. Byddwn yn diweddaru gyda rhagor o wybodaeth cyn gynted â phosibl.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisiau eich help i ddeall materion iechyd sy’n effeithio ar bobl ifanc 11 i 25 oed.
Defnyddir y wybodaeth hon i gefnogi datblygiad gwybodaeth ac adnoddau am faterion iechyd i bobl ifanc.
Mae'r arolwg yn cael ei weinyddu gan BMG Research, asiantaeth ymchwil marchnad annibynnol, a bydd yn cymryd tua 15 munud i'w gwblhau.
Lleisio eich barn
Ydych chi rhwng 11-25 oed? Gallwch gael mynediad i'r arolwg drwy'r ddolen hon.
Ydych chi'n rhiant i blentyn 11-16 oed? Gellir cyrchu'r arolwg i rieni trwy'r ddolen hon.
Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch:
PHWyoungpeoplesurvey@bmgresearch.com neu Jasmin.Chowdhury@wales.nhs.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.