Ym mis Hydref 2023, creodd y bwrdd iechyd dair rôl newydd Arweinwyr Clinigol Cynaliadwy i helpu i ymgorffori cynaliadwyedd ar draws ei wasanaethau a’i safleoedd.
Mae gan bob arweinydd clinigol amser wedi’i neilltuo bob wythnos i ganolbwyntio ar eu rôl ychwanegol, sy’n golygu eu bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr i annog, hyrwyddo a datblygu syniadau i helpu i ddarparu gofal iechyd mwy cynaliadwy a, lle bo modd, arbed arian i’r bwrdd iechyd.
Mae rôl Elana fel anesthetydd yn cynnwys darparu gofal i gleifion sy'n cael llawdriniaethau brys a dewisol. Mae ganddi'r fantais o weithio gyda llawer o wahanol arbenigeddau ac adrannau, ac mae'n gobeithio y gall hyn ei helpu i gysylltu prosiectau cynaliadwyedd ar draws y meysydd hyn.
Mae hi hefyd yn un o sylfaenwyr Grŵp Gwyrdd Bae Abertawe - grŵp a arweinir gan staff a grëwyd i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a gwneud y GIG yn y rhanbarth yn fwy ecogyfeillgar.
Mae Elana wedi hyfforddi yng Nghymru, Sheffield a Seland Newydd, ac mae'n canolbwyntio ar newidiadau y gellir eu gwneud o fewn y theatrau llawdriniaethau.
Yn addysgwr meddygol ac yn frwd dros yr amgylchedd, mae Sue wedi bod yn eiriolwr dros gynaliadwyedd ers ei phlentyndod.
Mae hi wedi gweithio yn yr Adran Achosion Brys ers 2011, ac mae’n arwain tîm sy’n edrych ar oblygiadau carbon a chost y dulliau a’r offer a ddefnyddir ar hyn o bryd i weld a oes ffyrdd gwyrddach a gwell o ddarparu’r gofal hwn.
Hyfforddodd Alexandra yn Abertawe ac mae wedi gweithio i'r bwrdd iechyd am y 17 mlynedd diwethaf.
Ar hyn o bryd mae'n rheolwr ar Uned Symudol Niwroleg Jill Rowe, sy'n uned driniaeth ac archwiliadau dydd i bobl ag anhwylderau niwrolegol gan gynnwys sglerosis ymledol, clefyd Parkinson ac epilepsi.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.