Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd y Boblogaeth

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gyfrifoldeb corfforaethol dros wella iechyd a lles ei boblogaeth. Gwyddom nad yw profiad pobl o iechyd a lles yr un peth ar draws y boblogaeth ac, i'r rhai sy'n byw yn ardal BIP Bae Abertawe, fod gwahaniaethau sylweddol a phryderus mewn canlyniadau iechyd y mae angen mynd i'r afael â nhw.

Beth yw iechyd y boblogaeth?

Rydym yn diffinio hyn fel:

“...dull sy'n anelu at wella iechyd y boblogaeth gyfan. Mae'n ymwneud â gwella canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol a lles pobl o fewn ac ar draws poblogaeth leol, ranbarthol neu genedlaethol ddiffiniedig, gan leihau anghydraddoldebau iechyd.”

I ddeall y cyfeiriad hwn, dilynwch y ddolen hon i'r dudalen 'Gweledigaeth ar gyfer iechyd y boblogaeth: tuag at ddyfodol iachach' ar wefan Cronfa'r Brenin.

Cynllun Strategol Iechyd y Boblogaeth BIP Bae Abertawe

Yn 2022/23, cydweithiodd Tîm Iechyd Cyhoeddus BIP Bae Abertawe â sefydliadau partner i ddatblygu Cynllun Strategol Iechyd y Boblogaeth BIP Bae Abertawe. Cymeradwywyd y Cynllun Strategol gan y Bwrdd Iechyd ym mis Mawrth 2023 ac mae'n darparu fframwaith strategol i arwain y sefydliad cyfan wrth gymryd camau i wella iechyd a lles pobl leol a lleihau anghydraddoldeb.

Mae'r Cynllun Strategol hwn wedi'i integreiddio i Strategaeth Sefydliadol BIP Bae Abertawe: Bae Abertawe Iachach , gyda'r wyth Amcan Marmot yn ffurfio Amcan Strategol 1: Mae pobl Bae Abertawe yn byw bywydau iachach, tecach a mwy llewyrchus. Cefnogir y camau gweithredu ynddo gan amgylchedd deddfwriaethol a pholisi Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cenedlaethau'r Dyfodol, ac ymdrechion partneriaeth leol.

Dilynwch y ddolen hon i'n tudalen 'Bae Abertawe Iachach' am ragor o wybodaeth am y strategaeth hon.

Y ffocws yw atal a mynd i'r afael ag 'achosion yr achosion' o afiechyd. I wneud hyn mae angen gweithredu system gyfan, amlsectoraidd ac mae'n darparu fframwaith galluogol i weithredu fel pont rhwng y sylfaen dystiolaeth a gweithredu ymarferol.

Amcanion y Cynllun Strategol Iechyd y Boblogaeth:

Amcan 1: Rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.

Amcan 2: Galluogi pob plentyn, person ifanc ac oedolyn i wneud y gorau o’u galluoedd a chael rheolaeth dros eu bywydau.

Amcan 3: Creu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb.

Amcan 4: Sicrhau safon byw iach.

Amcan 5: Creu lleoedd a chymunedau iach a chynaliadwy.

Amcan 6: Cryfhau rôl ac effaith atal afiechyd.

Amcan 7: Mynd i’r afael â hiliaeth, gwahaniaethu a’u canlyniadau.

Amcan 8: Dilyn cynaliadwyedd amgylcheddol a chydraddoldeb iechyd gyda'i gilydd.

Yn ogystal, mae'r cynllun yn nodi pedwar maes gweithredu lle mae gan y Bwrdd Iechyd y pŵer i wella iechyd y boblogaeth:

  • Fel darparwr gofal iechyd , gallwn ddylanwadu'n uniongyrchol ar ganlyniadau iechyd drwy ddarparu gofal iechyd diogel, effeithiol a chyfartal i filoedd o gleifion bob blwyddyn. Ein nod yw canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar mewn afiechyd.
  • Fel cyflogwr , rydym yn chwarae rhan hanfodol yn yr economi leol, gan gyflogi dros 12,500 o bobl yn uniongyrchol. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwaith cefnogol, cynhwysol ac iach, a gweithio gyda'n gwasanaethau cyflogaeth, ysgolion, colegau a phrifysgolion i sicrhau gweithlu hyfforddedig a medrus iawn ar gyfer y dyfodol.
  • Fel sefydliad lleol mawr a rhan o economi ranbarthol , mae ein dylanwad yn ymestyn y tu hwnt i ofal iechyd o ddiwydiannau gwasanaeth, cadwyni cyflenwi, i ymchwil a datblygu a seilwaith ynni. Mae'r bwrdd iechyd yn effeithio ar sefydlogrwydd economaidd, lles cymunedol, a chynnydd cymdeithasol trwy stiwardiaeth gyfrifol o adnoddau ac ymgysylltu'n weithredol â datblygiad lleol.
  • Yn olaf, fel partner cynhyrchiol , rydym yn cydweithio'n agos ag ystod eang o sefydliadau, cyrff cyhoeddus a chymunedau i ymgymryd â mentrau ar y cyd, gan gynnwys ymchwil ac arloesi gyda'n cynghorau, prifysgolion, busnesau, mentrau cymdeithasol a'r sector gwirfoddol i wella iechyd a lles.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen ein ' Dyfodol gwell i bawb: Strategaeth Iechyd Poblogaeth Bae Abertawe' mewn fformat Word.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.