Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu gwasanaeth a gwybodaeth ddwyieithog i ddefnyddwyr gwasanaethau oll. Lle bynnag y bo modd, dylai defnyddwyr gwasanaethau gael eu triniaeth a gofal wedi’u cynnal yn iaith eu dewis.
Mae Tîm Gwasanaethau Iaith Gymraeg yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac yn cefnogi'r Bwrdd Iechyd i weithredu'n ddwyieithog. Mae ein gwaith yn cynnwys cefnogi adrannau i ddatblygu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, darparu gwasanaeth cyfieithu a sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg.
Mae Safonau’r Iaith Gymraeg wedi disodli Cynllun yr Iaith Gymraeg
Dilynwch y ddolen hon i weld Rheoliadau Safonau’r Gymraeg
Dilynwch y ddolen hon i weld yr Hysbysiad Cydymffurfio - Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
Mae Safonau’r Iaith Gymraeg yn gyfres o ofynion statudol sy'n berthnasol i'r Bwrdd Iechyd. Maent yn nodi'n glir ein cyfrifoldebau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog i gleifion a'r cyhoedd.
Mae 121 o Safonau i gyd, a rennir yn 4 prif faes cydymffurfio.
Mae'r safonau hyn yn nodi gofynion penodol y Bwrdd Iechyd wrth ddelio â'r cyhoedd. Gan gynnwys pan fyddwn yn delio â gohebiaeth, galwadau ffôn, cyfarfodydd, digwyddiadau a sianeli cyfathrebu allanol.
Mae'r Safonau hyn yn nodi'r hyn y dylem ei ystyried wrth ddatblygu unrhyw bolisi, protocol neu gynllun newydd.
Mae'r rhain yn nodi sut rydym ni'n defnyddio'r Gymraeg o fewn prosesau mewnol.
Mae'r rhain yn ymwneud â'n tystiolaeth wrth gydymffurfio â'r Safonau.
Mae pawb sy'n gweithio i'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am gydymffurfio â'r Safonau.
Dilynwch y ddolen hon i weld Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2019-2020
Dilynwch y ddolen hon i weld Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2020-2021
Dilynwch y ddolen hon i weld Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2021-2022
Dilynwch y ddolen hon i weld Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2022-2023
Dilynwch y ddolen hon i weld Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2023-2024
Mae’n ofynnol i ni gyhoeddi cynllun 5 mlynedd yn amlinellu sut y byddwn yn cynyddu ein gallu i gynnig cynnal ymgynghoriadau clinigol yn Gymraeg. Mae ein cynllun ar gyfer y cyfnod Rhagfyr 2024 – Tachwedd 2029 wedi ei gyhoeddi ac ar gael i’w ddarllen yma.
Dilynwch y ddolen hon i weld ein Gofal Iechyd drwy'r Gymraeg Cynllun Gweithredu 5 Mlynedd.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Tîm Gwasanaethau Iaith Gymraeg, Pencadlys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, 1 Porthfa Talbot, Port Talbot, SA12 7BR.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.