Neidio i'r prif gynnwy

Dywedoch chi, gwnaethom ni

Mae eich adborth yn hanfodol wrth yrru gwelliant. Fe wnaethoch chi rannu eich meddyliau, ac fe wnaethon ni gymryd camau i wneud newidiadau ystyrlon. Dyma sut wnaethon ni ymateb i'r hyn a ddywedoch chi wrthym.


'Dywedoch chi'

Mae dewisiadau bwyd cyfyngedig yn effeithio ar lesiant – claf yn gwella o ganser y tonsiliau.

'Gwnaethom ni'

Cysylltwyd â'r gwasanaeth arlwyo ac anfonwyd swyddog cymorth bwyd i drafod opsiynau dietegol gyda'r claf er mwyn darparu diet mwy cynhwysfawr yn y dyfodol.


'Dywedoch chi'

Mae'r claf yn cael anhawster cysylltu â'r tîm meddygaeth adsefydlu i drefnu pigiadau Botwlinwm. Heb y rhain maen nhw'n cael trafferth gweithredu sy'n effeithio ar fywyd bob dydd.

'Gwnaethom ni'

Ar ôl cysylltu â'r meddyg a'r ysgrifennydd, trefnwyd apwyntiad i'r claf.


'Dywedoch chi'

Oedi wrth dderbyn canlyniadau biopsi.

'Gwnaethom ni'

Yn gysylltiedig â'r gwasanaeth, cysylltwyd â'r claf gyda'u canlyniadau.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.