Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i'r cyhoedd

Heb ymchwil, ni fyddai llawer o'r triniaethau a'r mathau o ofal yr ydym yn eu derbyn fel mater o drefn heddiw yn y GIG ar gael.

Mae gan aelodau'r cyhoedd ran hanfodol i'w chwarae, oherwydd heb i bobl gytuno i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil ni fyddai'r triniaethau a'r gofal gwell hyn yn bodoli.

Mae yna lawer o wahanol ffyrdd y gall pobl gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys:

  • derbyn triniaeth newydd
  • ateb holiaduron
  • rhoi caniatâd i ymchwilwyr edrych ar eich nodiadau meddygol
  • rhoi sampl gwaed neu wrin

Mae ymchwil yn rhan arferol o driniaeth a gofal yn GIG Cymru. I ddarganfod pam mae ymchwil yn bwysig, sut i gymryd rhan, beth yw'r buddion a beth sy'n gysylltiedig â phobl sy'n cymryd rhan, dilynwch y ddolen hon i wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

HealthWise Cymru

Gallwch ymuno ag astudiaeth HealthWise Wales os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac yn byw yng Nghymru, gwahoddir pawb i ymuno!

Bydd ateb cwestiynau syml am eich iechyd a'ch ffordd o fyw yn helpu i amddiffyn eich iechyd ac iechyd eich ffrindiau, eich teulu a chenedlaethau Cymru yn y dyfodol.

Dilynwch y ddolen hon i wefan HealthWise Wales i gael mwy o wybodaeth.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.