Neidio i'r prif gynnwy

Ymosodwyd gweithwr Ysbyty Singleton yn ystod lladrad beic modur

Singleton Hospital

Cafodd gweithiwr Ysbyty Singleton ei fwrw oddi ar ei feic modur ac ymosodwyd arno gan ddyn a oedd yn bygwth ei drywanu cyn dianc gyda'r beic.

Mae'r gweithiwr wedi disgrifio sut gwnaethodd arhosiad brys, gan feddwl ei fod wedi taro'r dyn a oedd wedi neidio allan i'r ffordd o'i flaen.

Ond eiliadau yn ddiweddarach cafodd ei wthio drosodd ar y ffordd, gyda'r ymosodwr yn dyrnu ei goes ac yn gweiddi, “Byddaf trywanu ti. Byddaf trywanu ti.”

Cododd ei ymosodwr y beic dros y llain ganol lle roedd cyfaill yn aros amdano gyda char. Rhoddodd ei fraich drwy ffenestr y car a thynnodd y car ef a'r beic i ffwrdd.

Er i'r heddlu adfer y beic yn ddiweddarach, maent yn apelio am dystion i'r digwyddiad ger Amazon ar Fabian Way ar nos Fercher (10 Gorffennaf).

Gadawodd y gweithiwr ysbyty, nad yw am gael ei enwi, Singleton tua 6.30pm ar ôl gorffen ei sifft ac roedd yn mynd i'r dwyrain ar Ffordd Fabian.

“Roeddwn i’n agos at Amazon tua 7pm. Roedd croesfan i gerddwyr ac roedd y golau yn wyrdd ond rhedodd y dyn o'r blaen fi.

“Wnes i stop mewn argyfwng a dynnais i drosodd, meddyliais i bo’ fi wedi taro fe.

“Y peth nesaf roeddwn i'n gw’bod gwrthiodd e fi oddi ar y beic. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd, roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi taro fe, ac roedd e’n grac.

“Wedyn, ddechreuodd e i daro fi ar y goes. Roedd e’n gweiddi, byddaf trywanu ti, byddaf trywanu ti, ewch oddi ar y beic, ewch oddi ar y beic'.

“Roedd rywbeth yn ei law. Gallai fod yn gyllell. Fyddwn i ddim yn gallu gweld beth oedd e, ond doeddwn i ddim yn gymryd unrhyw siawns. ”

Roedd yr aelod staff yn gallu cymryd yr allweddi beic, a rhedeg i ffwrdd. Aeth ei ymosodwr ar ei ôl yn fyr a'i fygwth cyn rhoi'r gorau iddi.

Yna gwthiodd y beic ar draws y llain ganol, roedd cymod yn aros yno mewn car arian. Bwrodd y lleidr ei fraich drwy ffenestr y car, wedyn tynnwyd y dyn a'r beic i ffwrdd.

Yn ddiweddarach, adferodd heddlu y beic, KTM Duke, tua milltir i ffwrdd. Roedd mân ddifrod i'r beic, ac mae fe wedi cael ei anfon i'w archwilio fforensig.

Er gwaethaf ei ddioddefaint, roedd perchennog y beic yn ôl yn y gwaith yn Ysbyty Singleton y diwrnod wedyn.

“Roeddwn i'n gwisgo dillad beic modur llawn ac arfwisg corff, ac nid oeddwn wedi fy anafu'n gorfforol,” meddai. “Roeddwn i mewn sioc. Dyw hyn ddim rhywbeth bo’ ti’n disgwyl - mynd adref yn dawel ac mae rhywbeth fel hyn yn digwydd.

“Digwyddodd hyn i gyd mor gyflym hefyd, tua thair munud o'r dechrau i'r diwedd. Roedd e jyst yn swreal. ”

Dylai unrhyw dystion i'r digwyddiad hwn sy ddim wedi siarad â'r heddlu, neu unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth a fydd yn cynorthwyo swyddogion yn yr ymchwiliad hwn yn gysylltu â'r heddlu ar 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 1900250939.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.