Neidio i'r prif gynnwy

Rhybudd wrth i gleifion cardiaidd ohirio sganiau calon brys

Mae cleifion sy'n gohirio eu sganiau calon pwysig nes eu bod yn cael brechiad Covid-19 yn agored i niweidio eu hiechyd neu'n waeth, mae clinigwr pryderus wedi rhybuddio.

Ers i’r brechlynnau newydd ddod ar gael, mae nifer pryderus uchel o gleifion yn canslo neu’n peidio â mynychu eu sganiau cardiaidd uwchsain, meddai Pennaeth Gwasanaethau Ffisioleg Glinigol BIP Bae Abertawe, Suzanne Churchill.

Hyd yn hyn mae tua 200 o gleifion wedi canslo ers i newyddion am y brechlynnau gael ei gyhoeddi, gyda llawer yn esbonio eu bod am osgoi mynd i'r ysbyty, a'r risg botensial o ddal Covid-19, nes iddynt gael eu brechiad.

Fodd bynnag, dywedodd Suzanne, er ei bod yn deall eu pryderon, nad oedd angen poeni gan fod mesurau diogelwch helaeth yn erbyn y feirws yn y clinigau cleifion allanol. Roedd y risg o niweidio eu hiechyd yn barhaol, neu hyd yn oed beryglu eu bywydau o beidio â chael sgan mewn pryd, yn sylweddol.

Esboniodd:

“Mae ein clinigau cleifion allanol mewn ardal hollol wahanol i wardiau’r ysbyty, ac nid ydym yn gweld unrhyw gleifion ward.

“Mae ein staff yn gwisgo PPE ac mae gennym fannau aros ar wahân lle rydym wedi lleihau nifer y bobl ynddynt fel eu bod yn gallu cadw pellter corfforol yn hawdd.

“Mae cleifion sy’n dod am sgan yn mynd i mewn ac yn dod allan mewn llai na hanner awr.

“Rydyn ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau diogelwch, felly does dim angen i unrhyw un boeni am fynd i'w sgan cleifion allanol.”

Ychwanegodd:

“Nid yw’r sganiau hyn yn rhai arferol bob dydd. Os yw'r cleifion hyn yn cael eu galw am sgan, mae hynny oherwydd bod angen un arnyn nhw. Os byddan nhw'n gohirio'r sgan, ac yn ei adael yn rhy hwyr, yna gallen nhw niweidio eu calon yn barhaol ac mewn rhai achosion mae yna risg y byddan nhw'n colli eu bywydau.

“Gyda monitro falfiau, er enghraifft, mae dim ond cyfle bach i weithredu ac os collir hynny bydd y galon yn cael ei difrodi’n rhy wael i wella.”

Gwneir y sganiau yn ysbytai Treforys, Singleton a Gorseinon, ond nid yw tua 50% o'r apwyntiadau cyfredol yn cael eu cadw. Yn ogystal â sganiau cardiaidd, mae'r gwasanaeth hefyd yn cefnogi rhai cleifion canser sydd angen ymchwiliadau cyn eu triniaeth.

Mae Suzanne yn poeni, os bydd rhai sganiau’n cael eu gohirio am fisoedd nes bod pobl yn cael eu brechu, yn ogystal â'r risg i iechyd, yna fyddai'r gwasanaeth ddim yn gallu ymdopi â'r ymchwydd yn y galw yn y dyfodol.

“Mae'n debyg i tswnami,” meddai. “Gallwn eisoes weld y llanw’n mynd allan, ac ar ryw adeg yn y dyfodol bydd yn gorlifo yn ôl i mewn ac yn ein llethu.

“Ni fyddwn mewn sefyllfa i weld llawer o bobl ar unwaith felly bydd cleifion sydd wedi gohirio eu sganiau mewn perygl o oedi pellach.

“Felly rydyn ni'n annog pobl i ddod am eu sganiau os ydyn ni wedi eu gwahodd i mewn am un. Mae'n bwysig iawn eu bod yn cael eu hymchwilio mewn pryd. "

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Richard Evans:

“Mae'n bwysig iawn bod pobl yn ceisio cyngor meddygol os oes ganddyn nhw symptomau difrifol neu os ydyn nhw am fynd i apwyntiad am brawf fel sgan ar y galon.

“Rydyn ni'n gwybod nad oes cymaint o bobl ag y byddem ni'n eu disgwyl yn dod i'r ysbyty gyda chyflyrau fel trawiadau ar y galon a strôc ac rydyn ni'n poeni eu bod nhw'n osgoi ceisio am gyngor meddygol oherwydd eu bod nhw'n poeni am Covid.

“Rydyn ni ond yn galw pobl am apwyntiadau pan fyddant yn wirioneddol angenrheidiol er mwyn atal y cyflwr hwnnw rhag dod yn fwy difrifol. Mae pob un o'n hadrannau bellach yn arbenigo mewn sicrhau bod pawb yn gallu mynychu'n ddiogel a chyda'r holl fesurau priodol ar waith. ”

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.