Neidio i'r prif gynnwy

Pebyll wedi'u gwresogi wedi cael eu codi ar gyfer ymwelwyr

Dangosir pabell wen fawr yn iard Ysbryd Y Coed.

Bydd cleifion sydd â dementia yn gallu bod yn gyfforddus wrth i’w hanwyliaid ymweld â nhw yn yr ysbyty dros yr ŵyl ac wedi hynny. 

Ers cryn amser, dim ond ymweliadau yn yr awyr agored a fu’n bosib ar gyfer cleifion mewnol ar wardiau iechyd meddwl.  Mae hynny oherwydd y lefelau uchaf erioed o bobl yn cael eu heintio gan Covid yn y gymuned.

Ond gan nad yw’r tywydd gaeafol yn gwneud hyn yn ddelfrydol a dweud y lleiaf, daethon ni o hyd i ateb newydd ac arloesol.

Yn dilyn adborth gan deuluoedd y cleifion, mae dwy babell fawr sydd wedi'u gwresogi wedi cael eu gosod yn Ysbryd y Coed, sef uned i bobl hŷn ac ynddi 60 gwely, yn Abertawe.

Mae’r pebyll, sy’n llawn o addurniadau Nadolig, yn rhoi’r cyfle hanfodol hwnnw i gael ymweliadau wyneb yn wyneb, heb hyd yn oed i gleifion orfod gadael y wardiau.

Dwy aelod o staff yn y llun gyda choeden Nadolig a cheirw pren.

  1. Rheolwr y ward sef Deborah Morgan, a Jessey May Cannings, gweithiwr cymorth gofal iechyd, yn gosod addurniadau Nadolig yn un o'r pebyll.
Credyd: BIPBA

Esboniodd y Pennaeth Nyrsio Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yn Abertawe, sef Maria Anderton, sut mae hyn yn gweithio.

“Mae'r pebyll mawr, sydd wedi'u codi ar yr iard fewnol, wedi'u cysylltu â'r ystafelloedd teulu ar wardiau Derwen a Celyn.

“Bydd y claf yn eistedd wrth fwrdd yn ystafell y teulu a’r drysau patio’n cael eu hagor i’r babell fawr.

“Gall eu hymwelwyr fynd i’r pebyll mawr heb ddod i mewn i adeilad yr ysbyty o gwbl.”

Yn unol â'r canllawiau swyddogol, dim ond dau berson o'r un cartref sy’n cael eu caniatâu ar y tro ar gyfer ymweliadau. Caiff yr ymweliadau hyn eu harchebu o flaen llaw drwy staff y wardiau.

Rhaid i ymwelwyr gadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb ac nid yw’n bosib cyfnewid anrhegion am resymau’n ymwneud â rheoli heintiau.

Fodd bynnag, dywedodd Maria fod y pebyll mawr yn gam mawr ymlaen ac yn ateb ar gyfer y misoedd nesaf, nes bod cyfraddau’r heintiau’n gostwng yn ddigon isel i ddechrau ymweld dan do eto yn ôl yr arfer.

“Am gyfnod, er mwyn amddiffyn ein cleifion a’n staff, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol rydyn ni wedi gallu caniatáu ymweliadau dan do, fel ar ddiwedd oes”, meddai.

“Mae teuluoedd wedi gorfod aros y tu allan.  Weithiau, mewn tywydd gwael, mae hynny’n golygu siarad â'u hanwyliaid trwy ffenestr agored neu wneud galwadau fideo, ac rydyn ni’n gwybod y gall hyn fod yn anodd iawn i gleifion â dementia.

“Felly fe siaradon ni â theuluoedd a meddwl am y syniad o gael pebyll mawr.

“Mae ein staff wedi addurno’r pebyll â choed Nadolig a hyd yn oed ychydig o geirw pren.

“Rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw'n gwneud rhywfaint i helpu pobl deimlo'n agosach yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn dros y Nadolig.”

  • Bydd y pebyll mawr yn cael eu defnyddio o'r wythnos yn dechrau ddydd Llun, Rhagfyr 21ain. Gall teuluoedd cleifion siarad â staff y wardiau i gael manylion am archebu lle.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.