Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs arbenigol yn sgriptio ffilm fer er mwyn gwella diogelwch inswlin

HSYawards Logo

Mae nyrs ddiabetes arbenigol BIP Bae Abertawe wedi rhannu gwobr yn dilyn ei rôl mewn gwella dealltwriaeth o ddiogelwch inswlin a sgilau darparwyr gofal iechyd ar draws y wlad.

Gwnaeth Chris Cottrell, Arweinydd ThinkGlucose yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, gydweithio ag eHealth Digital Media, cwmni cynhyrchu yn Abertawe, i greu ffilmiau byr er mwyn hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol mewn partneriaeth â Rhaglen Addysg Diabetes Caergrawnt (CDEP). Cafodd y ffilmiau eu cyd-gyflwyno â Gwobr Diogelwch y Claf yng Nghyfnodolyn y Gwasanaeth Iechyd (HSJ) yn ddiweddar.

Cottrell Helpodd Ms Cottrell i sgriptio ffilmiau hyfforddi byr a ddyluniwyd i wella gwybodaeth am ddiogelwch inswlin a hunan-aseswyd, gwella hyder ac adnabyddiaeth o ganllawiau ymhlith staff yr ysbyty. Maen nhw wedi’u gwerthuso, ac yn ymddangos i gyflwyno newidiadau cadarnhaol ar y ward.

Mae gwallau inswlin yn parhau i fod yn fater diogelwch cleifion sylweddol ar draws y DU, ac mae darparu hyfforddiant diogelwch inswlin safonol sy’n hawdd ei gyrchu, i niferoedd uchel o staff sy’n gweithio shifftiau ar wardiau yn heriol, ond mae’n debyg bod y tîm CDEP wedi dod o hyd i’r ateb.

Cynhyrchir y ffilmiau gan gyn-gynhyrchydd y BBC, Kimberley Littlemore, sydd yn byw yn Abertawe, a goruchwylir nhw gan yr Ymgynghorydd Diabetes, Dr Sam Rice, sy’n gweithio yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.

Dyweddodd Ms Cottrell: “Mae pobl â diabetes, yn arbennig y rhai sy’n cymryd inswlin, wir yn poeni pan maen nhw’n dod i’r ysbyty achos maen nhw wedi dod i arfer â rheoli eu diabetes eu hunan, ac maen nhw’n poeni nad oes gan y staff yr un arbenigedd â nhw. Bydd uwchsgilio’r gweithlu a’u gwneud nhw’n fwy ymwybodol o sut i ddefnyddio inswlin yn ddiogel yn mynd i helpu i wella gwybodaeth staff, a fydd yn cynyddu hyder y staff a’r cleifion.

 “Rydym ni wedi creu cyfres o ffilmiau ar gyfer staff i helpu i wella eu gwybodaeth o reoli diabetes.”

Profwyd yr hyfforddiant gan arbenigwyr yn y maes, ac mae’n edrych yn effeithiol iawn.

Dywedodd: “Gallwch chi drefnu hyfforddiant wyneb yn wyneb, ond ni all pawb ddod, ac fe wnaeth pandemig COVID-19 hi’n anodd dod â phobl at ei gilydd – felly mae’r fideos byr yn yn golygu gallan nhw wylio a dysgu pan fydd yn hwylus iddyn nhw, a gallwn ni gysylltu â mwy o bobl. Profwyd eu bod nhw’n effeithiol iawn."

Ynglŷn â’r wobr, dywedodd Ms Cottrell: “Mae’n hyfryd bod y gwaith rydym ni wedi bod yn ei wneud wedi cael ei gydnabod. Ein nod yw ceisio gwella gofal diabetes a thriniaeth ein cleifion, ac i helpu eraill wrth ddarparu’r gofal hwnnw. Felly mae derbyn gwobr diogelwch cleifion oherwydd rhywbeth rydym ni wedi’i wneud er mwyn gwella diogelwch cleifion yn rhywbeth arbennig, ac mae’n dangos bod yr hyn rydym ni’n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth.

“Gall helpu pobl eraill wneud inni deimlo’n dda, boed nhw’n gleifion neu staff.”

Dywedodd llefarwr dros y beirniaid: “Teimlai’r beirniaid fod gan y prosiect buddugol hwn botensial i gael ei gyhoeddi ar raddfa fawr. Bu’r hyfforddiant cryno a gynigir o fewn y prosiect yma’n lleihau gwallau i’r rhai y gofalwyd amdanyn nhw â diabetes. Roedd tystiolaeth gref o gydweithio, ac roedd yr arbed costau wedi creu argraff.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.