Neidio i'r prif gynnwy

Mwy o gapasiti profi yn rhanbarth Bae Abertawe wrth i ganolfan brofi newydd agor yng Nghastell-nedd

A picture of a swab

Bydd cyfleuster profi cerdded trwodd ar gyfer y coronafeirws yn agor ym Maes Parcio Heol Milland, Castell-nedd, fel rhan o’r ymgyrch i wella hygyrchedd profion coronafeirws yn yr ardal.

Bydd y profion yn Heol Milland yn cychwyn ddydd Sadwrn 9 Ionawr, a bydd y cyfleuster ar agor o 8am i 8pm, 7 diwrnod yr wythnos. Bydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i ddiogelu cymunedau rhag lledaeniad y coronafeirws trwy ddarparu mwy o brofion yn y rhanbarth, a helpu i leihau’r pellter teithio i bobl sydd angen prawf.

Rhaid i unrhyw un sydd â symptomau’r coronafeirws, hyd yn oed os ydyn nhw’n ysgafn, aros gartref a threfnu prawf; mae’n rhaid trefnu apwyntiad ar gyfer cyfleuster Heol Milland ymlaen llaw. Gallwch chi drefnu prawf trwy ffonio 119 neu fynd ar-lein i https://gov.wales/apply-coronavirus-covid-19-test.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyng. Rob Jones:

"Bydd y ganolfan brofi newydd hon yn darparu opsiwn profi ychwanegol cyfleus mewn lleoliad canolog i drigolion Castell-nedd Port Talbot, gan gryfhau ymhellach ein proses Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) leol, sy’n rhan hanfodol o’r frwydr yn erbyn y coronafeirws”

"Ein gwasanaeth TTP lleol sy’n rhoi gwybodaeth i ni am sut mae’r coronafeirws yn ymledu yn Ardal Bae Abertawe. Os cewch chi alwad ganddyn nhw, p’un a ydych chi’n rhywun sydd wedi cael prawf positif neu wedi bod mewn cysylltiad â rhywun positif, atebwch yr alwad, os gwelwch yn dda, i’n helpu i gyfyngu ar effaith pob achos newydd."

Mae’n hawdd cyrraedd y safle heb gar. Bydd gofyn bod y rhai sy’n cael eu profi yn dilyn mesurau iechyd cyhoeddus, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, peidio â theithio mewn tacsi nac ar gludiant cyhoeddus, arfer hylendid personol da, a gwisgo gorchudd wyneb ar hyd y broses (gan gynnwys wrth deithio i’r ganolfan brofi ac oddi yno).

Dywedodd Dr Keith Reid, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

“Rydyn ni wedi gweld nifer y bobl sy’n cael eu profi’n lleol yn gostwng yn sylweddol yn ystod y gwyliau. Mae angen i bawb a allai fod yn dioddef o COVID ddod i gael prawf, ac mae mynediad lleol at brofion yng Nghastell-nedd yn helpu i hwyluso hynny. Felly os oes gennych chi unrhyw rai o brif symptomau Covid-19 – tymheredd, peswch newydd parhaus neu golli’r gallu i flasu neu arogli – hunanynyswch ar unwaith, os gwelwch yn dda, ac ewch allan i gael y prawf yn unig. Arhoswch gartref nes i chi gael eich canlyniad – peidiwch ag aros i gael canlyniad positif cyn ynysu.”

Bydd unrhyw un sy’n mynd i apwyntiad mewn cyfleuster profi cerdded trwodd yn cael cyfarwyddyd ynghylch cyrraedd y safle profi a dod oddi yno’n ddiogel.

Mae’r safle newydd hwn yn ychwanegol at y safleoedd gyrru trwodd rhanbarthol ym Meysydd Chwarae Lôn Longlands, Margam a Stadiwm Liberty, Abertawe, a’r unedau profi symudol sy’n teithio ar draws rhanbarth Bae Abertawe.

Bydd gwasanaeth Profi ac Olrhain y GIG yn cysylltu ag unrhyw un sy’n cael prawf positif am y feirws i’w helpu i olrhain eu cysylltiadau. Bydd hynny’n helpu pobl i nodi pwy maen nhw o bosib wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw, gan amddiffyn eraill rhag trosglwyddiad pellach.

Bydd cysylltiadau agos y rhai sy’n cael prawf positif hefyd yn clywed gan wasanaeth Profi ac Olrhain y GIG, a fydd yn eu cynghori i aros gartref am 10 diwrnod i’w hatal rhag lledaenu’r feirws yn ddiarwybod. Fe’u cynghorir hwythau i drefnu prawf os byddan nhw’n datblygu symptomau.

-DIWEDD-

Cyflwynwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Abertawe

Nodiadau i olygyddion:

Bydd y ganolfan brofi yn agor o ddydd Sadwrn 9 Ionawr, wedi dau ddiwrnod peilota gydag oriau agor cyfyngedig ar 7 ac 8 Ionawr.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.