Neidio i'r prif gynnwy

Y nifer sy'n cael eu brechu'n cynyddu

Mae bron 14,000 o bobl yn ardal Bae Abertawe bellach wedi derbyn brechiad Covid.

Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, llawer o breswylwyr cartrefi gofal a rhai preswylwyr dros 80 oed nad ydyn nhw'n byw mewn cartrefi gofal wedi cael eu dos cyntaf.

Mae tua 24,000 o bobl dros 80 oed ar draws ein hardal a bydd pob un yn cael cynnig brechiad gan eu meddygfa neu yn eu cartref gofal dros yr wythnosau nesaf.

Rydyn ni ar ein ffordd i gyrraedd ein targed i frechu holl breswylwyr cartrefi gofal â'r dos cyntaf erbyn diwedd Ionawr ac yn gobeithio bod yn yr un sefyllfa ar gyfer pawb sydd dros eu 80au erbyn dechrau Chwefror.

Hyd yn hyn rydym wedi derbyn cyflenwadau cyfyngedig o'r brechlynnau Pfizer BioNTech ac Oxford- AstraZeneca, ond mae disgwyl i hyn gynyddu'n sylweddol o'r wythnos nesaf ymlaen.

Bydd cyfanswm o 3,500 o frechlynnau Oxford-AstraZeneca yn cael eu hanfon i 35 o bractisau meddygon teulu'r wythnos hon.  Dyma’r brechlyn sydd fwyaf addas at ddefnydd y gymuned gan ei bod yn haws ei storio a'i baratoi.

Bydd deng mil o frechlynnau'n cael eu hanfon yr wythnos nesaf ac eto'r wythnos wedyn, gan sicrhau bod gan bob un o'r 49 practis gyflenwadau.

“Mae ein meddygfeydd yn chwarae rhan hanfodol yn y rhaglen frechu fwyaf a welwyd erioed yn y GIG,” meddai Dr Anjula Mehta, Cyfarwyddwr Meddygol ar gyfer Grŵp Gwasanaethau Sylfaenol, Cymunedol a Therapïau.

“Mae timau'r meddygon teulu'n gweithio’n hynod o galed i sicrhau bod y brechlyn yn cael ei drefnu'n gyflym ac maen nhw’n canolbwyntio ar sicrhau bod y grwpiau sydd fwyaf agored i niwed yn cael eu diogelu rhag Covid cyn gynted â phosibl.

“Fodd bynnag, mae cyflwyno'r brechlyn yn effeithlon yn dibynnu ar gyflenwad amserol ac rydyn ni'n gobeithio ei gynyddu'n wythnosol.

“Rydyn ni’n ymwybodol iawn bod hwn yn gyfnod pryderus iawn i’r cleifion hynny sy’n aros am y brechlyn ac i'w teuluoedd, ond hoffen ni eu sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w diogelu rhag Covid cyn gynted â phosibl.”

Ychwanegodd: “Ein neges yw bod angen bod yn amyneddgar. Bydd eich meddygfa'n cysylltu â chi neu â'ch anwylyd yn fuan, naill ai trwy lythyr neu dros y ffôn, er mwyn trefnu apwyntiad ar gyfer eich brechiad."

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.