Neidio i'r prif gynnwy

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Sefydlodd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Rhaid i bob bwrdd gynnal asesiad llesiant a chyhoeddi cynllun llesiant lleol blynyddol. Mae'r cynllun yn nodi sut y byddant yn cyflawni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ac yn gwella cydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Rhaid i aelodau statudol pob BGC gynnwys:

  • Yr Awdurdod Lleol
  • Y Bwrdd Iechyd Lleol
  • Awdurdod Tân ac Achub Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

Yn ogystal, gwahoddir y canlynol i gymryd rhan:

  • Gweinidogion Cymru
  • Prif Gwnstabliaid
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Gwasanaethau Prawf
  • Sefydliadau Gwirfoddol

Mae 19 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn aelodau statudol o BGC Castell-nedd Port Talbot a BGC Abertawe.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y ddau BGC drwy'r ddolen isod:

Cyngor Abertawe

Cyngor NPT

Gweler isod ar gyfer Adroddiadau Blynyddol 2018/19 a gyhoeddwyd gan BGC Castell-nedd Port Talbot a DGC Abertawe:

(Nodir, mae'r adroddiadau yma ar gael yn Saesneg yn unig.)

Adroddiad Blynyddol BGC Abertawe 2018-19

Adroddiad Blynyddol BGC NPT 2018-19

 

Dilynwch y ddolen hon i'r 2ail Adroddiad Blynyddol BGC Castell-Nedd Port Talbot Gorffennaf 2020

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.