Neidio i'r prif gynnwy

Helpa Fi i Stopio - cymorth i roi'r gorau i ysmygu

Os ydych chi'n meddwl am roi'r gorau i ysmygu does dim amser gwell na nawr. Yn yr adran hon fe welwch wybodaeth a dolenni i wasanaethau cymorth.

Mae rhoi'r gorau iddi nid yn unig o fudd uniongyrchol i chi'ch hun, ond hefyd i'ch anwyliaid sy'n anadlu mwg ail law i mewn.

Rhoi'r gorau i ysmygu - dechreuwch gynilo

Ewch yma i ddarganfod Faint mae smygu yn ei gostio i mi? | Helpa Fi i Stopio

*Gallai ysmygu 20 sigarét y dydd arbed dros £3,000 y flwyddyn i chi drwy roi’r gorau i ysmygu

Rhoi'r gorau iddi am byth gyda chymorth arbenigol AM DDIM wedi'i deilwra i chi gan Helpa Fi i Stopio.

Ffoniwch 0800 085 2219 neu Ewch yma i ofyn am alwad yn ôl | Helpa Fi i Stopio

*yn seiliedig ar bris cyfartalog o 20 pecyn maint brenin y dydd

llun efo geiriau

Mwy o wybodaeth

  • Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnig cymorth cyfrinachol ac anfeirniadol am ddim gan arbenigwr rhoi’r gorau i ysmygu cyfeillgar
  • Cefnogaeth sydd naill ai wyneb yn wyneb, rhithwir neu dros y ffôn
  • Cefnogaeth sydd naill ai'n un i un neu'n sesiwn grŵp gydag ysmygwyr eraill
  • Sesiynau wythnosol wedi'u teilwra i gwrdd â'ch anghenion
  • Monitro eich cynnydd
  • Mynediad at feddyginiaeth rhoi'r gorau i ysmygu am ddim gan gynnwys darnau nicotin ac un cynnyrch llafar ychwanegol fel gwm neu anadlydd

Os hoffech gyfeirio eich hun at y gwasanaeth, gallwch gysylltu â Helpa Fi i Stopio ar 0800 085 2219 neu anfon neges destun at HMQ i 80818. Os hoffech gael cymorth drwy fferyllfa, ewch i'ch fferyllfa leol am ragor o wybodaeth.

Ewch yma i gael Gwybodaeth a Chanllawiau ar Anweddu i Ddysgwyr Oed Uwchradd yng Nghymru - Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales)

Ewch i wefan Helpa Fi i Stopio i ddysgu mwy am eich dewisiadau ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu, y manteision corfforol ac i glywed straeon llwyddiant.

Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am gyngor manwl ar roi'r gorau i ysmygu.

Ewch yma i ymweld ag ASH - Defnyddio NRT i’ch helpu i roi’r gorau i smygu (ash.wales)

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.